Director of Financial Risk- Wales Pension PartnershipInvestment Management Company, Cyfarwyddwr Risg
New Yesterday
£125,000 per
annum + bonus + generous pension + benefits | Wales /
Hybrid
WPP IM Co is being
established as an FCA-regulated investment management company to
serve the eight Welsh Local Government Pension Scheme funds,
managing more than £25 billion for 412,000 members. This is a
once-in-a-generation opportunity to help shape a permanent,
world-class investment institution for Wales and to design and lead
the investment capability of a new, regulated company at the heart
of UKLGPS reform.
With
Government backing, and authorisation targeted for March 2026, WPP
IM Co will operate to global standards with a Welsh purpose -
combining professional excellence with a clear public mandate. Over
time, WPP IM Co will help channel long-term pension capital into
clean energy, affordable housing, innovation and other investments
that strengthen Wales and the UK - demonstrating how responsible
investment can serve members and the communities they live
in.
The organisation is now
seeking its first ever Director of Financial Risk to design, embed
and oversee WPP IM Co’s financial risk, compliance and financial
crime frameworks. Reporting to the Chief Executive Officer, you
will ensure that the company meets the highest standards of
prudential and regulatory integrity, providing independent
assurance to the Board, Audit & Risk Committee, and
regulators.
This is a
pivotal leadership role within a lean structure - suited to an
experienced Risk professional who thrives in a hands-on
environment. You will shape and implement proportionate frameworks
for market, liquidity and credit risk, lead compliance and
financial crime oversight, and act as a trusted counterpart to
regulators and Partner Funds.
You may already hold a senior Risk leadership role in an
FCA-regulated investment or asset management organisation or be
ready to take that next step. You will bring a depth of knowledge
of MIFIDPRU, capital adequacy, liquidity management and ICARA
requirements and an understanding of investment-risk analytics,
stress testing and scenario analysis. In addition, you will bring a
familiarity with compliance monitoring and best practice as well as
of overseeing AML, CTF and sanctions frameworks and fulfilling MLRO
responsibilities.
Experience within the LGPS or public sector is not
required. Welsh connectivity or experience would be advantageous
but is not essential. Welsh language proficiency is also not
essential but would be an advantage.
To have a confidential conversation about the role with
Odgers’ team in Wales, please call Jemma Terry, Leighton Freeman or
Steffan Griffiths on 02922 947009 or email us at OdgersWalesPractice@odgers.com . All
applications will be acknowledged, and we particularly welcome
applications from diverse candidates.
To apply, please submit a CV by 12 November 2025.
£125,000 y
flwyddyn + bonws + pensiwn hael + buddion | Cymru /
Hybrid
Mae Cwmni Rheoli
Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael ei sefydlu fel
cwmni rheoli buddsoddiadau a reoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad
Ariannol i wasanaethu’r wyth cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol yng Nghymru, gan reoli mwy na £25 biliwn ar gyfer 412,000 o
aelodau. Dyma gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i helpu i lunio
sefydliad buddsoddi parhaol, o'r radd flaenaf i Gymru ac i ddylunio
ac arwain gallu buddsoddi cwmni newydd a reoleiddir sydd wrth
wraidd diwygio Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol y DU.
Gyda chefnogaeth y Llywodraeth, gan
dargedu awdurdodiad ar gyfer mis Mawrth 2026, bydd Cwmni Rheoli
Buddsoddiadau PPC yn gweithredu yn ôl safonau byd-eang gyda phwrpas
Cymreig - gan gyfuno rhagoriaeth broffesiynol â mandad cyhoeddus
clir. Dros amser, bydd Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC yn helpu
i sianelu cyfalaf pensiwn hirdymor i ynni glân, tai fforddiadwy,
arloesi a buddsoddiadau eraill sy'n cryfhau Cymru a'r DU - gan
ddangos sut y gall buddsoddi cyfrifol fod o fudd i aelodau a'r
cymunedau lle maent yn byw.
Mae'r sefydliad bellach yn chwilio am ei Gyfarwyddwr Risg
Ariannol cyntaf erioed i ddylunio, sefydlu a goruchwylio
fframweithiau risg ariannol, cydymffurfiaeth a throseddau ariannol
Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC. Gan fod yn atebol i'r Prif Swyddog
Gweithredol, byddwch yn sicrhau bod y cwmni'n bodloni'r safonau
uchaf o ran uniondeb darbodus a rheoleiddiol, gan ddarparu sicrwydd
annibynnol i'r Bwrdd, y Pwyllgor Archwilio a Risg, a'r
rheoleiddwyr.
Mae hon yn
rôl arwain allweddol o fewn strwythur darbodus - sy'n addas i
weithiwr risg proffesiynol profiadol sy'n ffynnu mewn amgylchedd
ymarferol. Byddwch yn llunio ac yn gweithredu fframweithiau cymesur
ar gyfer risg yn ymwneud â chredyd, marchnadoedd a hylifedd, yn
arwain y gwaith o oruchwylio cydymffurfiaeth a throseddau ariannol,
ac yn gweithredu fel partner dibynadwy i reoleiddwyr a Chronfeydd
Partner.
Efallai y bydd
eisoes gennych rôl arwain risg uwch mewn sefydliad buddsoddi neu
reoli asedau a reoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol neu
eich bod yn barod i gymryd y cam nesaf hwnnw. Bydd gennych
wybodaeth helaeth am MIFIDPRU, digonolrwydd cyfalaf, rheoli
hylifedd a gofynion ICARA ynghyd â dealltwriaeth o ddadansoddi risg
buddsoddi, profion straen a dadansoddi senarios. Yn ogystal,
byddwch yn gyfarwydd â monitro cydymffurfiaeth ac arferion gorau yn
ogystal â goruchwylio fframweithiau atal gwyngalchu arian/cyllido
gwrthderfysgaeth a sancsiynau a chyflawni cyfrifoldebau Swyddog
Adrodd Gwyngalchu Arian.
Nid oes angen profiad o fewn Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol neu yn y sector cyhoeddus. Byddai cysylltiad â Chymru neu
brofiad o Gymru yn fanteisiol ond nid yw'n hanfodol. Nid yw
hyfedredd yn y Gymraeg yn hanfodol chwaith, ond byddai'n
fanteisiol.
I gael sgwrs
cyfrinachol am y rôl gyda’r thîm Odgers Cymru, cysylltwch â Jemma
Terry, Leighton Freeman neu Steffan Griffiths ar 02922 947009 neu
ebostiwch OdgersWalesPractice@odgers.com . Bydd pob
cais yn cael ei gydnabod, a rydym yn croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr amrywiol.
I ymgeisio, danfonwch CV erbyn 12 Tachwedd
2025.
- Location:
- Gb
- Job Type:
- FullTime